Pobl Ifanc a Addysgir yn y Cartref yn Datblygu’n Fapwyr
Mae’r prosiect ‘Pobl Ifanc a Addysgir yn y Cartref yn Datblygu’n Fapwyr’ yn grymuso pobl ifanc a addysgir yn y cartref i ddweud eu dweud ynglŷn â ble y maent yn byw, a dod yn Fapwyr eu hunain.
Rydw i’n eithriadol o danbaid dros greu cysylltiadau a chynnig cyfleoedd i’r gymuned a addysgir yn y cartref gymryd rhan yn y Llwyfan Map Cyhoeddus, oherwydd rydw i’n creu bod eu safbwyntiau a’u profiadau’n bwysig ac yn werthfawr. Bydd eu profiadau o Ynys Môn yn cynnig gwedd arall ar ein hynys, gan ehangu’r wybodaeth a allai effeithio/dylanwadu ar gynllunio ar Ynys Môn yn y dyfodol.
Dros y blynyddoedd, rydw i wedi addysgu nifer o bobl ifanc a addysgir yn y cartref yn rhinwedd fy rôl fel tiwtor Celf a Dylunio preifat. Rydw i’n eithriadol o falch o allu rhoi’n ôl i’r gymuned trwy gynnig a chyflwyno gweithdai am ddim yn rhinwedd fy rôl fel Mapiwr Cymunedol y Llwyfan Map Cyhoeddus.
Mae’r prosiect ‘Pobl Ifanc a Addysgir yn y Cartref yn Datblygu’n Fapwyr’ yn anelu at greu criw o fapwyr ifanc a all barhau i fapio yn y dyfodol. Y gobaith yw y gallant sicrhau parhad y Llwyfan Map Cyhoeddus a meithrin ei waddol.
Yn y gweithdai hyd yn hyn, mae Plant Ifanc a Addysgir yn y Cartref wedi archwilio beth yw mapiau ac ar gyfer beth y gellir eu defnyddio, ac fel grŵp rydym wedi trafod a herio syniadau rhagdybiedig am fapiau. Hefyd, mae’r bobl ifanc wedi dechrau creu eu haenau Umap eu hunain yn ymwneud â’u profiadau unigol o Ynys Môn. Mae eu haenau Umap yn disgrifio’u profiadau, cyfnodau sy’n gofiadwy iddynt, mannau sydd o ddiddordeb iddynt, eu safbwyntiau ynglŷn â mannau a lleoliadau ar yr ynys. Mae un person ifanc wedi bod yn mapio ble y camodd ar slefren fôr, ble y mae’n hoffi siopa a ble y mae wedi bod yn rhedeg. Hefyd, mae’r bobl ifanc hyn yn dysgu sut i ddefnyddio platfformau fel OpenStreetMap, Wikimedia a Kobo.
Wrth gwrs, mae’r gweithdai a’r data’n cyfrannu at y Llwyfan Map Cyhoeddus; ond hefyd, mae’r bobl ifanc hyn yn datblygu adnoddau addysg gwych. Cynigiodd y gweithdai gyfle i’r bobl ifanc hyn feithrin sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth o’r canlynol: mapio digidol, darllen a dehongli mapiau, eu hardal leol, ymdeimlad o le, hunanfyfyrio, y gwerth a’r effaith sy’n perthyn i rannu eu safbwyntiau a’u profiadau gydag eraill, a sut i feddwl yn gysyniadol er mwyn cyfleu eu profiadau ar fap mewn ffordd weledol.
Bydd gweithdai’r dyfodol yn mynd ati i archwilio mannau sy’n bwysig iddynt a mannau sy’n gysylltiedig â theimladau ac emosiynau, gan roi hierarchaeth i fannau sy’n cyfoethogi eu hunaniaeth a’u hymdeimlad o’u hunigoliaeth a’u hunan.