Sut y gall mesur ansawdd aer ein helpu i adeiladu amgylchedd iachach
Nod y prosiect Llwyfan Map Cyhoeddus yw creu map aml-haenog cynhwysfawr o Ynys Môn – gan ddarparu data ar y pedwar conglfaen llesiant: cymdeithasol, diwylliannol, economaidd ac amgylcheddol.
Un o nodweddion ein gwaith yw nodi, deall a helpu i wella'r amgylchedd – yn ei ystyr ehangaf. Rhan greiddiol o'r ymdrech hon yw ansawdd yr aer, elfen hanfodol sy'n cael effaith ddifrifol ar ein hiechyd ac ar ddatblygiad ein plant. Nid trin data yn unig a wneir wrth fapio a monitro ansawdd yr aer; mae'n golygu ysbrydoli unigolion i wella'u hamodau byw a rhoi'r mewnwelediadau angenrheidiol i awdurdodau lleol allu lleihau straen amgylcheddol.
Beth yw ansawdd yr aer?
Ansawdd aer yw cyflwr yr aer yn ein hamgylchedd, a gaiff ei fesur yn ôl presenoldeb a lefelau llygryddion. Mae'r llygryddion hyn yn bennaf yn cynnwys mater gronynnol (PM), nitrogen deuocsid (NO2), a chyfansoddion organig anweddol (VOCs), sydd gan amlaf yn anweledig i lygad dynol Mae amrywiaeth o weithgareddau dynol a naturiol ymhlith y prif ffynonellau ar gyfer y rhain:
- Cerbydau modur a phrosesau diwydiannol: Allyrru PM ac NO₂.
- Prosesau gwresogi a hylosgi preswyl: Rhyddhau PM a NO₂.
- Gweithgareddau adeiladu ac amaethyddol: Cynhyrchu PM.
- Defnyddio toddyddion mewn paent a chynnyrch glanhau: Cyfrannu at VOCs.
Effeithiau ansawdd aer gwael ar iechyd
Gall anadlu aer llygredig achosi amrywiaeth o broblemau iechyd. Gall PM dreiddio'n ddwfn i'r ysgyfaint a'r llif gwaed, gan arwain at broblemau anadlol fel asthma a broncitis. Gall NO₂ greu llid ar y llwybrau anadlu a gwaethygu cyflyrau fel asthma. Gall VOCs ffurfio osôn (O₃), sy'n creu llid ar yr ysgyfaint a'r galon. Mae problemau iechyd eraill yn gysylltiedig ag ansawdd gwael yr aer yn cynnwys nam ar ddatblygiad ysgyfaint plant, risgiau uchel o ganser, a gwanio systemau imiwnedd. Mae monitro ansawdd yr aer o gymorth i adnabod ffynonellau llygredd, deall eu heffaith, a gweithredu i wella'r amgylchedd rydym yn byw ynddo.
Pam mesur ansawdd yr aer mewn ysgolion?
Mae mesur ansawdd yr aer mewn ysgolion yn arbennig o arwyddocaol gan fod plant yn treulio swm sylweddol o amser yno o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae plant a phobl ifanc yn fwy agored i niwed yn sgil llygredd yn yr aer, gan fod eu systemau anadlol yn datblygu, a chan fod ganddynt gyfraddau anadlu uwch. Gall ansawdd aer gwael amharu ar iechyd disgyblion, yn ogystal â'u gallu i ganolbwyntio a'u profiad dysgu cyffredinol. Gan eu bod yn rhan annatod o'r gymuned, mae ysgolion yn fannau delfrydol i gychwyn prosiectau ansawdd yr aer. Gall newidiadau a wneir yma ymledu at allan fel crychdonnau ymhlith disgyblion, staff a rhieni.
Bydd mesuriadau ansawdd aer yr ysgol hefyd yn cyfrannu at ymdrechion mapio amgylcheddol ehangach ar draws Ynys Môn. Drwy gymharu data o wahanol ysgolion, gallwn sefydlu llinell sylfaen gynhwysfawr ar gyfer ansawdd yr aer mewn gwahanol ranbarthau. Bydd y llinell sylfaen yma nid yn unig yn darparu gwybodaeth i awdurdodau lleol ond yn grymuso dinesydd-wyddonwyr i fonitro a gwella ansawdd yr aer yn eu cymunedau.
Sut i fesur ansawdd aer?
Er mwyn gwerthuso ansawdd yr aer mewn ysgolion ac yn yr amgylcheddau lle mae plant a phobl ifanc yn treulio'u hamser, rydym yn bwriadu cymryd dau fath o fesuriad: mesuriadau sefydlog hirdymor mewn ysgolion a mesuriadau symudol personol ar gyfer pob plentyn neu unigolyn ifanc.
Mae mesuriadau sefydlog hirdymor yn golygu gosod synwyryddion ansawdd yr aer sefydlog o dan do ac yn yr awyr agored ar dir yr ysgol. Mae'r synwyryddion hyn yn darparu data parhaus ar lygryddion amrywiol, gan gynnwys PM, VOCs ac NO2. Maen nhw hefyd yn mesur y tymheredd, y lleithder a'r CO₂ i asesu'r hinsawdd lleol, gan roi trosolwg cynhwysfawr o ansawdd yr aer dros amser.
Mae mesuriadau symudol personol yn golygu defnyddio synwyryddion ansawdd aer symudol y gall plant a phobl ifanc eu cario i wahanol leoliadau o fewn yr ysgol ac wrth deithio rhwng y cartref a'r ysgol. Mae'r synwyryddion symudol hyn yn mesur PM, tymheredd yr aer, a lleithder gan gynnig hyblygrwydd a helpu i ganfod ffynonellau llygredd.
Gydag ymdrechion diflino ein cydweithiwr, Felicity Jayne Davies, bydd ein hastudiaeth beilot yn cael ei chynnal yn Ysgol Llanfechell yr haf yma. Mae'r ysgol yn awyddus i gymryd rhan yn brosiect i fesur ansawdd yr aer, gan alluogi athrawon, plant, rhieni, ac awdurdodau lleol i gael dealltwriaeth drylwyr o ansawdd yr aer lleol a chymryd camau effeithiol i'w wella. Byddwn yn rhoi'r newyddion diweddaraf ichi yn y blogiau nesaf ynghylch cynnydd y prosiect.
Sut i'w gynnwys wrth ddysgu?
Er bod mesur llygryddion yn yr aer yn bwysig, mae hi hyd yn oed yn fwy hanfodol sicrhau bod plant a phobl ifanc yn deall beth yw ansawdd yr aer a'u bod yn gweithredu i'w wella ar sail y ddealltwriaeth honno. Sut mae gwneud y broses hon yn addysgiadol ac yn brofiad boddhaus i blant a phobl ifanc?
- Dysgu rhyngweithiol: Byddwn yn paratoi deunyddiau addysgu ynghyd â synwyryddion ansawdd yr aer. Gall y synwyryddion hyn ddangos data amser real, gan wneud y cysyniad o ansawdd yr aer yn rhywbeth gwirioneddol ac uniongyrchol.
- Gweithgareddau ymarferol: Er mwyn cadarnhau gwybodaeth ddamcaniaethol, byddwn yn cynnwys disgyblion wrth osod yr offer, cymryd mesuriadau, cofnodi data, dadansoddi data, nodi ffynonellau llygryddion, a chynnig atebion i wella ansawdd yr aer.
- Ymyriadau hirdymor: Creu cyfleoedd i ddisgyblion drafod eu canfyddiadau a thaflu syniadau ar gyfer ymyriadau hirdymor i wella ansawdd aer yn eu hysgol a’u cymuned.
Rydym yn mireinio ein dulliau dysgu ymgysylltiol yn rheolaidd ac yn ymroi i gydweithio â'n cydweithwyr, Thomas Smith a Matluba Khan, i ddatblygu deunyddiau dysgu i ysgolion.
Gobeithiwn y bydd hyn yn rhoi blas ar ein gwaith yn y maes hwn. Wrth i’r gwaith fynd rhagddo, edrychwn ymlaen at rannu mwy gyda chi yn y blogiau nesaf. Gyda’n gilydd, gallwn helpu i greu dyfodol iachach i'n plant sy'n seiliedig ar fwy o wybodaeth.