
Stentiau Canoloesol Ynys Môn – mapio’r ynys ar ôl y Goncwest Seisnig

Mae’r prosiect PMP yn ymdrin â’r ffyrdd gall mapiau adlewyrchu a ffurfio ein cymunedau yn y presennol a’r dyfodol, ond fel hanesydd, troais I at y gorffennol. Y pethau agosa sy gan Ynys Môn I Lyfr Domesday Lloegr yw’r ddwy ‘Stent’ neu extent a wnaed o’r ynys yn y canoloesoedd – a fel llyfr Domesday, daethant yn sgil concwest estron a threisgar. Gall y dogfenni yma hefyd ddweud pethau diddorol wrthyn ni am gymdeithas ganoloesol oedd yn delio âg anghydraddoldeb, pandemig y Pla Du, a’n sefyll ar drothwy newid hinsawdd.
Dogfennau gweinyddol canoloesol at bwrpas trethiant yw Stentiau Ynys Môn. Mae’r fersiwn gwreiddiol o Stent 1352 yn Archifdy Prifysgol Bangor, ar ôl cael ei gadw am ganrifoedd ym Mlasty adfeiliedig Baron Hill. Mae'n debyg iddo gael ei gymryd i’r plasty o Drysorlys Gogledd Cymru yng Nghaernarfon, a oedd ym mhorthdy dwyreiniol waliau'r dref yn wynebu i ffwrdd o'r môr.

Yn y cyfnod canoloesol, rhannwyd Cymru mewn i ddarnau gwahanol niferus – y teyrnasoedd Cymreig brodorol, arglwyddiaethau’r Gororau ar y ffin, ac, ar ôl y goncwest Seisnig yn y 1280au, Tywysogaeth Cymru (yn fras, y gogledd-orllewin a’r de-orllewin). Roedd y Dywysogaeth yn cynnwys tiroedd y tywysogion Cymreig brodorol a orchfygwyd gan frenin Lloegr, a rheolwyd yr ardal gan frenin Lloegr neu, fel arfer, ei fab a'i etifedd. Comisiynwyd y stentiau gan y rheolwyr yma. Yn 1284 gwnaed y Stent gyntaf, wedi ei gomisiynu gan y Brenin Edward I o Loegr, ond blwyddyn ar ôl ei goncwest o Wynedd a llai na blwyddyn a hanner ar ôl marwolaeth Llywelyn ap Gruffudd yng Nghilmeri. Y pwrpas sylfaenol oedd gweld faint o dreth oedd yn ddyledus i’r brenin o’r tiroedd roedd newydd goncro – oherwydd hyn, mae’r Stent hefyd yn dweud llawer i ni am sut y llywodraethwyd Gwynedd o dan Llywelyn a’r tywysogion brodorol.
Comisiynwyd yr ail Stent yn 1352 gan or-ŵyr Edward, tywysog Seisnig Cymru, Edward y Tywysog Du. Roedd y rhyfel rhwng Lloegr a Ffrainc yn meddwl bod Tywysogaeth Cymru wedi dod yn ffynhonnell bwysig o arian a milwyr i’r tywysog rhyfelgar, a gan fod cymaint o bobl wedi marw yn y Pla Du yn y ddegawd flaenorol, nid oedd hen Stent 1284 bellach yn ddefnyddiol.
Wrth edrych ar y stentiau, gallwn ddarganfod llawer am gymdeithas ganoloesol Ynys Môn. Dy’n nhw ddim yn dweud popeth i ni – dim ond beth oedd y bobl yn gorfod talu i’r brenin neu’r tywysog. Ond mae hwn yn cynnig llawer o wybodaeth i ni – pwy oedd yn berchen ar dir, faint oedd ei werth, pwy oedd yn byw yno, sut gafodd y tir ei ddefnyddio. Yn Stent 1284 roedd pobl yn talu llawer o’u dyledion gyda nwyddau – dyled o gant o wyau i'r brenin, neu laeth tair buwch, neu rywfaint o wenith. Gall y brenin hefyd fynnu gwaith o’r bobl yma – er enghraifft, ychydig ddyddiau o waith y flwyddyn yn atgyweirio un o’r melinau lleol. Beth gwelwn rhwng Stent 1284 ac un 1352 yw dyledion bwyd a gwaith yma yn cael eu newid mewn i daliadau arian parod. Wrth i bwysau llywodraeth Seisnig y Dywysogaeth fynd yn drymach, yn codi mwy a mwy o arian at y rhyfel yn erbyn Ffrainc, newidodd y dulliau traddodiadol o gasglu trethi i ganolbwyntio mwy ar arian parod.
Y ffordd dwi di bod yn defnyddio’r wybodaeth yma yw drwy ganolbwyntio ar un ardal benodol – Aberffraw. Aberffraw oedd prif lys tywysogion Gwynedd, ond dirywiodd ei bwysigrwydd ar ôl y goncwest. O gymharu Stentiau 1284 a 1352, gwelwn rai newidiadau – fel y nodwyd, daeth taliadau cnydau a bwyd yn daliadau arian parod. Newid arall oedd i lawer o’r gerddi yn Aberffraw, gerddi yr oedd tenantiaid yn dal o’r tywysog, yn wag – efallai achos i berchnogion y gerddi hyn farw yn y Pla Du – yn aml iawn cawn enwau y cyn-denantiaid. Ond gwelwn hefyd renti a threthi yn mynd yn uwch er gwaetha’r ffaith fod y boblogaeth wedi lleihau – arweiniodd y cynnydd yma mewn trethiant drom, o dan llywodraeth estron annheg, ochr yn ochr â newidiadau cymdeithasol, i wrthryfel Owain Glyndwr yn 1400 ac i ugain mlynedd o rhyfela barhaus
Mae mapio'r pethau yma hefyd yn ddiddorol achos yr hyn mae'n dweud i ni am ein tirwedd bresennol. Wrth fapio’r ardal o gwmpas Aberffraw fel rhan o’r Open Street Map modern, daethais ar draws nifer o hen felinau – adfeilion melinau dŵr Melin Selar, Melin Gwna, a Melin y Traeth, a hefyd melin wynt Melin y Bont ger Bryn Du. Mae’r rhain dal i fod yn amlwg yn y tirwedd ond maent hefyd yn ymddangos yn y Stentiau canoloesol. Roedd y melinau yma yn ganolbwynt i fywydau’r bobl leol yn y canol oesoedd. Yr oedd yn rhaid i bobl ddod â’u ŷd yma i’w felino, a byddai rhaid iddynt dreulio peth o'u hamser yn atgyweirio a chynnal y melinau yma oedd yn perthyn i’w harglwydd. Roedd yr elw o hyn yn rhan fawr o'r incwm brenhinol.
Gwelwn hefyd sut mae’r defnydd o’r tirwedd wedi newid –mae’r tir moel, tywodlyd rhwng Bodorgan a’r môr yn dir pori ysgafn gan fwyaf y dyddiau hyn, ond yn yr oesoedd canol dyma rai o’r tiroedd pwysicaf o gwmpas Aberffraw i’r sawl oedd yn casglu arian y brenin neu’r tywysog. Yr enw am y tiroedd yma oedd tir cyfrif, a taeogion oedd yn byw yma – nid oedd y taeogion yn cael gadael eu tiroedd, a roedd arnynt lawer mwy o drethiant i’w harglwydd na thrigolion rhydd Aberffraw. Yn Stent 1284, gwelwn bod ffermydd y tir yma yn cynnal defaid ac ieir, yn gwneud llaeth, menyn, a chaws, ac yn tyfu ŷd, haidd, a gwenith. Yn ddiamau, roedd hyn yn haws cyn i newidiadau hinsawdd y canol oesoedd hwyr wneud i’r tir yma fynd llawer mwy tywodlyd, wedi ei rhannol orchuddio â thwyni tywod.
Mae'r map dwi'n creu yn cymryd gwybodaeth o'r Stentiau canoloesol a’i osod - mor gywir â phosib - ar U-Map aml-haenog. Yn ddelfrydol, ar ddiwedd y prosiect, bydd y map electronig hwn o’n gorffennol pell yn ffurfio lefel arall ar ein map cyhoeddus o Ynys Môn. Os edrychwn i'r gorffennol dim ond er mwyn canfod gwersi am y presennol a'r dyfodol, gallwn niweidio ein dealltwriaeth o'r gorffennol hwnnw. Ond drwy edrych ar y gorffennol ar delerau ei hun – cymryd y dogfennau yma a’u mapio yn uniongyrchol – gallwn oleuo’n sefyllfa bresennol ni drwy amlygu hanes hir a dwfn ein cynefin, a deall sut mae wedi datblygu. Wrth edrych ar y dogfennau canoloesol yma, gwelwn y ffyrdd y newidiodd y wlad hon a’i phobl yn ystod y canol oesoedd – ond gall hwn hefyd gynnig cipolwg inni ar sut y gallent newid yn ein bywydau ni’n hunain.