Mae Map Cyhoeddus wedi bod yn gweithio gyda myfyrwyr Bagloriaeth Cymru yn Ysgol Uwchradd Caergybi i ystyried sut y gall eu gwaith prosiect gael ei fapio’n ddigidol a’i gynnwys o fewn y llwyfan Map Cyhoeddus. Dyluniwyd y fenter i gynorthwyo myfyrwyr i wella deilliannau eu prosiect wrth roi mewnwelediad lleol gwerthfawr i lywio cynllunio a datblygu polisi yn y dyfodol.
Wth gymryd rhan yn y prosiect, roedd myfyrwyr yn gallu cryfhau ymgysylltu dinesig, datblygu sgiliau digidol a dadansoddi, a meithrin dealltwriaeth well o sut y gall eu gwaith gyfrannu at newid lleol cadarnhaol.
Mae trafodaethau’n mynd rhagddynt gyda CBAC i ystyried cyfleoedd i dreialu mapio digidol o fewn modiwlau Her Sgiliau newydd, gan gynorthwyo integreiddio mapio fel arf ar gyfer dysgu, casglu tystiolaeth ac ymgysylltu cymunedol.
