Awaiting translation.

Aros am gyfieithu...

A photo of the person.
Dr. Rachel Gwenllian Hughes
19/11/2024

gymunedau a hefyd o fusnesau, cyrff cyhoeddus a sefydliadau’r trydydd sector – ynghyd ag areithiau hollbwysig gan Kate Raworth, economegydd ac awdur Doughnut Economics, a Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, pleser oedd cael mynychu cynhadledd gyntaf Economi Llesiant Cymru yn Abertawe a chael stondin yno yr wythnos hon i arddangos gwaith y Llwyfan Map Cyhoeddus a’i gyd-destun ehangach.

Nod y gynhadledd oedd sôn am gynnydd Cymru, ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol, o ran datblygu’r economi llesiant. Hefyd, llwyddodd y gynhadledd i helpu pobl i ddeall gwir ystyr Economeg Llesiant a pham nad yw’n briodol mwyach inni hoelio ein gobeithion ar ‘dwf economaidd’ os ydym yn dymuno cael Cymru sy’n gofalu am ei phobl a’i phlaned.

Mae’r Llwyfan Map Cyhoeddus ac Economi Llesiant Cymru, fel ei gilydd, yn hyrwyddo economi llesiant ac yn annog pobl i feddwl a gweithredu’n fwy cyfannol. Edrychwn ymlaen at gyfrannu at y trafodaethau yn y dyfodol.

Gweithio tuag at ddyfodol sy'n blaenoriaethu lles pobl a'r blaned.
Caiff y Llwyfan Map Cyhoeddus ei arwain gan Brifysgolion Caergrawnt, Caerdydd a Wrecsam ac mae’n rhan o raglen ymchwil genedlaethol The Design Museum ar gyfer pontio gwyrdd, sef ‘Future Observatory’. Caiff ei ariannu gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau.