Amddiffynnwr Landrover glas gyda threlar ac arno set o strwythurau pensaernïol diddorol wedi'u gwneud o bren wedi'i blygu.

Llwyfan Map Cyhoeddus yn cael gwahoddiad i arddangos yn yr Arddangosfa Pensaernïaeth Ryngwladol yn Fenis

A photo of the person.
Dr. Rachel Gwenllian Hughes
31/3/2025

Rydym yn falch iawn o gael ein gwahodd i arddangos y prosiect Llwyfan Map yn yr 19eg Arddangosfa Pensaernïaeth Ryngwladol, sydd wedi ei churadu gan Carlo Ratti ac wedi’i threfnu gan La Biennale di Venezia. Mae’r Arddangosfa Pensaernïaeth Ryngwladol yn arddangosfa ryngwladol o bensaernïaeth gan genhedloedd ledled y byd, a chaiff ei chynnal yn Fenis bob dwy flynedd. Teitl arddangosfa eleni yw Intelligens. Natural. Artificial. Collective. a byddwn ar agor i’r cyhoedd o 10fed Mai i 23ain Tachwedd 2025.

Mae ein harddangosfa wedi ei threfnu gan Flora Samuel, Irit Catz, Caitlin Shepherd (Prifysgol Caergrawnt), Alec Shepley (Prifysgol Wrecsam) a Piers Taylor (Invisible Studio). Bydd Lle Llais - ein strwythur ystafell wledig grwydrol a ddyluniwyd gan Piers a’i hadeiladu gan Owen Pearce a’i dîm o Pearce+ yn chwarae rhan allweddol.

Mae’n anrhydedd o’r mwyaf cael arddangos yn y dathliad byd-eang hwn o dalent bensaernïaeth. Mae Llwyfan Map Cyhoeddus yn un o bedwar prosiect ‘dylunio ymchwil’ blaenllaw Ecosystem Trawsnewid Gwyrdd a ariennir drwy Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau, sydd wedi’i leoli yn Arsyllfa’r Dyfodol yn y Design Museum yn Llundain.

Ein bwriad yw meithrin llwyfan map digidol sy’n ffynhonnell agored ac wedi ei greu gan y gymuned i gael ei ddefnyddio fel sail i wneud penderfyniadau mewn cynllunio. Dyma ‘bensaernïaeth’ yr 21ain ganrif yn ei hystyr ehangaf; datrysiadau rhyngddisgyblaethol i broblemau drwy ddylunio gofodol, gan ychwanegu at y gorffennol i ddylunio ar gyfer y dyfodol. Mae’n fraint cael rhannu ein gwaith gyda chynulleidfa ryngwladol a bod yn rhan o’r arddangosfa fawreddog hon.

Gweithio tuag at ddyfodol sy'n blaenoriaethu lles pobl a'r blaned.
Caiff y Llwyfan Map Cyhoeddus ei arwain gan Brifysgolion Caergrawnt, Caerdydd a Wrecsam ac mae’n rhan o raglen ymchwil genedlaethol The Design Museum ar gyfer pontio gwyrdd, sef ‘Future Observatory’. Caiff ei ariannu gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau.