Prosiectau Ymchwil
Prosiectau dan arweiniad Mapper sy'n archwilio sut y gellir defnyddio Map Cyhoeddus i symud tuag at ddyfodol mwy gwyrdd.
Stryd Gwyrdd
Dyma brosiect creadigol sy'n edrych ar sut y gall y Stryd Fawr leol ffynnu trwy egwyddorion economi gylchol, gan weithio gyda busnesau, ysgolion a chymunedau i leihau gwastraff, rhannu adnoddau, a chreu mannau gwyrddach a mwy cynhwysol. Mae'r prosiect yn canolbwyntio ar ddau leoliad, sef Porthaethwy, Ynys Môn a Llantrisant, Rhondda Cynon Taf. Bydd y Gogledd a’r De yn dysgu gyda’i gilydd ac yn rhannu syniadau, adnoddau ac astudiaethau achos rhwng dwy gymuned wahanol ond tebyg. Y gymuned fydd yn arwain, gan ddechrau gyda Gwiriad Iechyd o’r Stryd Fawr, mapio'r hyn sydd eisoes yno a gweld bylchau, cyn symud at lunio a chynnal gweithdai cydweithredol a fydd yn dod â gwahanol grwpiau o bobl at ei gilydd, gan ddefnyddio'r Map Cyhoeddus i gofnodi’r broses a'r datblygiadau. Y nod yw creu map economi gylchol fel sylfaen ar gyfer cynllun gweithredu economi gylchol dan arweiniad y gymuned a pherchnogion busnesau, ymrwymo i newid ymddygiad a chynnal y sgwrs rhwng Llantrisant a Phorthaethwy.
Traciau Gwyrdd
Nod y prosiect yma yw edrych ar brofiadau pobl o deithio gwyrdd a llesol ar Ynys Môn, gan gefnogi nod Llywodraeth Cymru o fynd i'r afael â newid hinsawdd a gwella iechyd a lles. Rydym wedi dewis canolbwyntio ar feicio, gan roi rhywfaint o sylw i fathau eraill o deithio cynaliadwy. Byddwn yn creu mapiau beicio i geisio helpu rhieni a phlant i feicio ar lwybrau sy'n ddiogel ac yn hwyliog. Gobeithio y bydd y rhain yn annog teuluoedd i fwynhau Ynys Môn ar gefn beic - byddant yn dangos nodweddion tirwedd arbennig a chyfleusterau defnyddiol. Rydym hefyd yn bwriadu cynnal gweithdai mapio gyda grwpiau o amrywiaeth o wahanol ardaloedd lle mae’r aelodau yn defnyddio'r Map Cyhoeddus i fapio eu llwybrau. Drwy gynnal y prosiect dros flwyddyn gyfan, gallwn edrych ar sut mae profiadau teithio gwyrdd a llesol yn amrywio o dymor i dymor. Yn y pen draw, bydd y prosiect yn datblygu sgiliau mapio cymunedol, yn hyrwyddo'r Map Cyhoeddus, ac yn annog mwy i deithio mewn ffordd lesol a chynaliadwy – bydd hynny’n hybu pobl i drawsnewid i fod yn wyrdd.
Mapio Hanesyddol
Gan ddefnyddio amrywiaeth o ffynonellau hanesyddol, byddwn yn creu map aml-haen o sut yr oedd y tir yn ne-orllewin Môn yn arfer cael ei ddefnyddio yn y gorffennol, ar adeg pan roedd yr ynys fwy na heb yn hunangynhaliol. Fel hyn, bydd gwahanol gymunedau ar yr ynys yn gallu edrych yn feirniadol ar y ffordd y defnyddiwyd tir yn y gorffennol, a meddwl yn greadigol sut y gellid defnyddio tir yn fwy cynaliadwy yn y dyfodol gan adeiladu ar iaith a diwylliant Cymru. O edrych ar y cyfnod canoloesol a'r cyfnod modern cynnar, roedd Ynys Môn yn ynys o ffermio cymysg gyda chyfran lawer uwch o dir âr nag sydd yno rŵan. Byddwn yn dangos sut mae'r defnydd wedi newid, am resymau economaidd, oherwydd patrymau tirddaliad, yn ogystal â newidiadau amgylcheddol fel lledaeniad twyni tywod. Byddwn yn defnyddio'r ddealltwriaeth yma - dros gyfnod hir o amser - o sut y gellir defnyddio tir i roi gwybodaeth i gymunedau a’u holi am bosibiliadau ffermio cynaliadwy, defnyddio tir mewn ffordd wahanol, a sut y gallwn siapio ac ymateb i newid yn yr hinsawdd. Caiff yr aelodau gyfle i gofnodi eu hatgofion neu eu gwybodaeth am sut y defnyddiwyd neu ffermiwyd y tir ar y map a meddwl sut mae pethau wedi newid a pham.
Cof Tirwedd
mewn partneriaeth â Natural Resources Wales
Mae ‘Cofio’r Dirwedd’ yn gydweithrediad rhwng y Map Cyhoeddus, Cyfoeth Naturiol Cymru a chymuned Niwbwrch. Y bwriad yw mapio effaith newid hinsawdd ar dirwedd a fydd yn wynebu cryn newidiadau amgylcheddol yn y dyfodol. Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar fapio ac ailddarganfod cartrefi, ffermydd ac adeiladau diwydiannol ble mae llystyfiant naturiol a thwyni tywod wedi cymryd drosodd dros y canrifoedd. Bydd dau fap yn cael eu gwneud: y naill yn dangos y dirwedd sydd wedi'i cholli, a'r llall yn dangos y dirwedd fel ag y mae. Bydd y mapiau yn cynnwys straeon, atgofion a phob math o gynnwys amlgyfrwng. Bydd adfail Tir Forgan, hen gartref y chwaraewr crwth proffesiynol olaf, wrth wraidd y drafodaeth. Bydd y cenedlaethau yn cael eu hannog i rannu trwy gasglu data, a bydd y gwaith mapio yn hybu sgwrs am newid amgylcheddol. Mae bwrdd gwybodaeth ar y safle yn annog ymwelwyr i ddefnyddio’r map.
Almanac yr Adleisiau
mewn partneriaeth â Cadw
"Hanes amser cylchol ar Ynys Môn" Mae Almanac yn gyhoeddiad all ein helpu i roi trefn ar fywyd dros y flwyddyn. Gallai hyn olygu cofnodi cylch y lleuad neu ddefod dymhorol sy'n dathlu'r ffordd y mae pobl yn ymwneud â'r tir, y môr a'r awyr. Ein nod yw cofnodi llais lle, ei bobl a'i amgylchedd ar gyfer cenedlaethau'r gorffennol, y presennol a'r dyfodol trwy greu Almanac rhyngweithiol. Bydd y cyhoeddiad yn gwadd y gymuned ac ymwelwyr i gofnodi eu profiad o leoedd arbennig, hanesyddol a sanctaidd ar yr ynys, gan gynnwys y rheiny sydd â chysylltiadau â chwedloniaeth a llên gwerin. Bydd hyn yn golygu datguddio a mapio amrywiaeth o safleoedd ar Ynys Môn drwy luniau, perfformiadau a geiriau i adleisio'r traddodiadol a'r newydd, gan alw ar ddefnyddwyr yr Almanac i weithredu. Bydd cyfleoedd i fyfyrio’n greadigol – drwy arlunio, ymgorffori ac ysgrifennu creadigol, er mwyn i ddarllenwyr gofnodi eu taith bersonol eu hunain. Bydd data o'r almanac yn un haen ar Fap Cyhoeddus o Ynys Môn fel bod modd i bobl wneud cysylltiad â lleoedd ac adegau arbennig ym mlwyddyn ddiwylliannol yr ynys."
Seiniau Lle
mewn partneriaeth â Barnardos
Nod y prosiect hwn, dan arweiniad Joe a Tristian, yw ysbrydoli’r aelodau i edrych ar themâu amgylcheddol a lles trwy gerddoriaeth. Byddwn yn eu harwain i ysgrifennu a chyfansoddi eu caneuon eu hunain sy'n sôn am y byd naturiol, materion lleol, a phwysigrwydd gofalu am y blaned. Trwy weithgareddau rhyngweithiol, byddwn yn cyflwyno technegau cyfansoddi caneuon syml, ymarferion adeiladu rhythm, a phrociau creadigol sy'n annog yr aelodau i fynegi eu syniadau mewn ffordd hwyliog a diddorol. Erbyn diwedd y gweithdy, bydd pob grŵp wedi creu darn gwreiddiol sy'n dangos eu dealltwriaeth o stiwardiaeth amgylcheddol. Ein nod yw rhoi’r gallu i bobl ddefnyddio cerddoriaeth fel cyfrwng ar gyfer codi ymwybyddiaeth, mynegi’u hunain a gweithredu’n gadarnhaol yn eu cymunedau. Ar ddiwedd y prosiect, bydd deunyddiau wedi’u creu ar gyfer Pecyn Dysgu i ysbrydoli athrawon i weithio fel hyn yn ogystal â map sy'n cysylltu deilliannau cerddorol y prosiect â lleoedd.
Cysylltiadau Cefni
mewn partneriaeth â Caru Cefni & A Grand Week in Wales
Mae'r prosiect yma yn dathlu'r cysylltiadau cyfoethog rhwng cymunedau lleol ac Afon Cefni, o'i tharddiad i'r môr. Trwy adrodd straeon, gweithdai creadigol, a mapio cyhoeddus, mae gwadd i bobl o bob oed rannu atgofion a phrofiadau bob dydd o'r afon - gan gydnabod ei bod yn rhan hanfodol o fywyd, hanes a hunaniaeth leol. Trwy ddod â hanesion a gwybodaeth bersonol am leoedd at ei gilydd, mae'r prosiect yn annog sgwrs rhwng y cenedlaethau ac yn herio "syndrom gwaelodlin newidiol," sef lle mae newid amgylcheddol graddol yn cael ei dderbyn fel rhywbeth normal. Mae mapio cyhoeddus hefyd yn helpu i adnabod lle mae llygredd yn broblem ac yn rhoi cyfle i gyd-ofalu, a chefnogi ymdrechion ymarferol fel casglu sbwriel ac adfer afonydd. Daeth y syniad gan y mudiad River Rights, ac mae'r prosiect yn gwadd yr aelodau i feddwl am Afon Cefni fel rhywbeth byw ac edrych ar beth mae'n ei olygu i ofalu am yr afon gyda'n gilydd, rŵan ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Ar ddiwedd y prosiect, bydd deunyddiau wedi’u creu ar gyfer Pecyn Dysgu i ysbrydoli athrawon i weithio yn yr ardal yn ogystal â map manwl o’r afon yn cofnodi’r broses.
Cynllun Gwobr Mapiwr
mewn partneriaeth â Holyhead High School
Bwriad y rhaglen yw creu cymuned gref o fapwyr ifanc trwy greu rhwydwaith o Lysgenhadon Mapio medrus mewn ysgolion. Bydd y llysgenhadon yn cryfhau llais myfyrwyr, yn hyrwyddo newidiadau gwyrdd mewn addysg, ac yn defnyddio mapio digidol i gefnogi newid er gwell mewn cymdeithas, diwylliant, addysg ac yn yr amgylchedd. Bydd yr aelodau yn gweithio tuag at wobrau mapio ar bedair lefel. Byddant yn cyflawni’r rhain trwy gyrraedd meini prawf penodol ar gyfer pob lefel. Mae'r broses yn annog iddynt ddysgu oddi wrth y naill a’r llall, datblygu sgiliau digidol, ac yn cefnogi ymddygiad sy'n cyd-fynd â nodau trawsnewid gwyrdd. Wrth wraidd y rhaglen mae'r cynllun Llysgenhadon Mapio, sy’n ceisio ysbrydoli pobl ifanc i ddefnyddio eu profiadau a'u lleisiau i siapio eu cymunedau. Mewn cyfres o weithdai ymarferol, bydd rhai myfyrwyr yn dysgu sut i ddefnyddio offer mapio digidol fel OpenStreetMap (OSM), uMap, StreetComplete, a KoBo. Bydd dysgwyr yn mapio eu profiadau eu hunain a rhai eu cyfoedion, gan greu eu mapiau digidol gwreiddiol eu hunain. Ar ôl iddynt gwblhau y pedair lefel, byddant yn 'Llysgenhadon Mapio' ac yn rhannu sgiliau ac yn gweithio gyda Llysgenhadon Mapio eraill – bydd hyn yn creu llwyfan ar gyfer llais myfyrwyr a newid yn y dyfodol. Erbyn diwedd y prosiect, bydd map wedi’i greu o’r Llysgenhadon ac arweiniad ar Becyn Dysgu i’r rheiny sydd eisiau annog mapio yn eu hysgolion.