Blog

Gŵr bonheddig hŷn a dynes yn cerdded braich-yn-braich ar hyd trac rheilffordd segur. Mae'r ddau yn gwisgo festiau hi-viz ac mae'r fenyw yn cario ambarél. Mae dail yr hydref wedi cwympo o'u cwmpas ac mae'r grŵp yn llaith.

Bywyd ar y Lein

Yma, mae Tansy yn dweud wrthym am ei phrofiad o gipio a mapio hanesion bywyd Walter Glyn Davies o Linell Ganolog Môn, sydd bellach yn segur, a thrwy hanesion llafar fel y rhain, pa mor bwysig yw dathlu’r atgofion a adroddwyd gan y rhai sydd wedi byw a buddsoddi cymaint yn eu cymuned.

A photo of the person.
Tansy Rogerson
06/01/2025
Dwylo’n gafael mewn cerdyn post gyda darlun gan blentyn o gwch rhwyfo ar y môr a thraeth. Mae’r cerdyn post wedi’i glymu ar strwythur pren gyda llinyn. Mae’r strwythur wedi’i wneud o estyll pren wedi’u plethu. Mae cardiau post eraill wedi’u clymu ar y strwythur.

Cerdyn Post o Fôn.

Fel Bardd a oedd yn gweithio ar y Prosiect Mapio Cyhoeddus dros yr haf, defnyddiais y cerdyn post syml i gychwyn sgyrsiau gyda phlant a theuluoedd am y lleoedd da ar Ynys Môn. Fe wnes i ganfod o glywed straeon am deulu, gwytnwch cymunedau, a chysylltiad â lle, fod ymwelwyr a phobl leol fel ei gilydd ag angerdd dwfn am yr Ynys ac ysfa i warchod ei thirwedd unigryw.

A photo of the person.
Lisa Hudson
7/12/2024
Aaliyah yn cynnal gweithdy amharu ar chwarae gyda chriw o bobl ifanc

Grymuso Myfyrwyr o Gymru Drwy Greadigrwydd a Diwylliant

Dengys y Platfform Map Cyhoeddus bosibiladau agwedd agored, hyblyg at addysg. Wrth addysgu disgyblion am rym mapio, mae’n tynnu sylw at yr effaith gadarnhaol a gaiff hyn ar gymunedau. Drwy integreiddio creadigrwydd a diwylliant, mae’r Platfform Map Cyhoeddus yn cyflwyno cysyniadau damcaniaethol am ddysgu creadigol yn y byd go iawn, gan ddangos pa mor effeithiol yw’r dulliau hyn a’r budd a ddaw ohonynt wrth ymgysylltu â phlant.

A photo of the person.
Aaliyah Owen-McVey
2/12/2024
Delwedd drawiadol yn dangos y modd yr esblygodd mapio’n raddol, gan drawsnewid yn ddidrafferth o fod yn fap papur a wnaed â llaw i fod yn fap digidol modern ar sgrin cyfrifiadur llechen.

Y Modd yr Esblygodd Mapio: O Fapiau Papur i Fapiau Digidol mewn Prosiectau Cymunedol

Yn y blog hwn, mae Joseph yn trafod sut y mae mapiau wedi trawsnewid o fod yn fapiau papur traddodiadol i fod yn offer mapio digidol, fel Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol a phlatfformau ffynhonnell agored fel OpenStreetMap. Mae’n tynnu sylw at y modd y mae mapiau digidol yn gwella cywirdeb, yn hwyluso cydweithredu ac yn grymuso cymunedau i ddogfennu eu hamgylcheddau. Er gwaethaf heriau fel y gagendor digidol a phryderon yn ymwneud â phreifatrwydd data, mae technolegau datblygol fel LiDAR a Deallusrwydd Artiffisial yn cynnig cyfleoedd i wella’r modd y gellir dadansoddi data gofodol. Mae Joseph yn pwysleisio pa mor bwysig yw integreiddio gwybodaeth leol â thechnolegau mapio uwch i ategu datblygu cymunedol cynaliadwy.

A photo of the person.
Joe Smith
12/11/2024
Desg yn orlawn o bapur a darnau wedi’u torri

Mapio drwy Lyfrynnau

Mae’r blog hwn yn archwilio’r cysyniad o lyfrynnau bach, hunan-gyhoeddedig, sy’n caniatáu i unigolion fynegi eu barn, eu straeon personol, neu brofiadau yn greadigol. Mae’n tynnu sylw at botensial creu llyfrynnau fel adnodd i fynegi barn wleidyddol, yn arbennig i bobl ifanc sy’n teimlo’n nad oes ganddynt gysylltiad â gwleidyddiaeth ffurfiol. Gan ddefnyddio profiadau personol ac estheteg wleidyddol, mae’r blog yn trafod sut y gall llyfrynnau rymuso unigolion i rannu eu safbwyntiau mewn ffyrdd hygyrch a chreadigol. Hefyd, mae’n cyflwyno prosiect yn cyfuno gweithdai creu llyfrynnau gyda mapio cyhoeddus, er mwyn arddangos profiadau a chlywed llais pobl ifanc Ynys Môn.

A photo of the person.
Maya Lee
7/11/2024
Teulu cynhenid ​​​​Cayambe sy'n pontio'r cenedlaethau yn bwyta pryd o fwyd wrth fwrdd ac yn gwenu'n gynnes ar y camera

Curiad Calon Cymuned

Yn y blog hwn, mae Tansy Rogerson yn tynnu ar ei phrofiadau yn Gracia, Barcelona ac Otavalo, Ecuador a’i gwaith fel Mapiwr Cymunedol ar y Llwyfan Map Cyhoeddus er mwyn eirioli dros bwysigrwydd ymdeimlad o leoliad, cariad a chyfeillgarwch cymunedol, sy’n gwneud ichi deimlo eich bod yn perthyn ac yn ddiogel yng ngofal a gwarchodaeth y gymuned, sy’n gwbl ganolog.

A photo of the person.
Tansy Rogerson
28/10/2024
Tynnwyd y llun hwn yn ystod Diwrnod Cyflwyno’r Prosiect Angerdd Mapwyr. Dangosir rhai aelodau o dîm y mapwyr, ochr yn ochr â Flora – arweinydd prosiect y Llwyfan Map Cyhoeddus, Zara – Rheolwr y Gyfadran, ac Aeronwy a Fliss – Cydgysylltwyr y Prosiect.

Creu Cymuned o Fapwyr

Rydym yn creu cymuned o Fapwyr! Mae’r Llwyfan Map Cyhoeddus yn gweithio tuag at ddelfryd lle bydd modd i bawb fapio’r hyn sy’n bwysig iddynt yn yr ardal lle maent yn byw, er mwyn helpu i lunio dyfodol yr ardal honno mewn ffyrdd sy’n ystyrlon iddyn nhw. Rydym yn gwneud hyn trwy sicrhau help ein Mapwyr Cymunedol – sef pobl leol â dealltwriaeth a gwybodaeth werthfawr am yr hyn sy’n bwysig i ddyfodol Ynys Môn.

A photo representing the author
Aeronwy Williams
14/10/2024
‘Bod yn gysylltiedig fel rhwyd’ – Rhwyd a grëwyd gan y cyfranogwyr ar gyfer yr Ystafell Grwydrol Wledig. Gobeithio y bydd cysylltiadau trigolion Ynys Môn yn gwella trwy gyfrwng y map gwrth-fregusrwydd.

Llunio Dyfodol Ynys Môn gyda’n Gilydd: Mae eich Barn yn Bwysig i Ni

Dewch i weld sut y gall eich llais lunio dyfodol Ynys Môn! Ymunwch â Dr. Kewei Chen a Dr. Ronita Bardhan yn eu cenhadaeth i ymchwilio i effaith y Llwyfan Map Cyhoeddus wrth iddo fynd i’r afael â’r heriau cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol sy’n wynebu Ynys Môn. Cewch ddysgu pam y mae eich cyfraniad yn hollbwysig i lwyddiant y prosiect a sut y gallwch helpu i greu dyfodol mwy disglair i’n cymunedau ac i’r ynys.

A photo of the person.
A photo of the person.
Multiple authors
30/9/2024
Mapiwr yn eistedd wrth fwrdd yn trafod gyda dau o blant y tu mewn i un o’r fframiau gwau pren. Mae’r plant yn gwneud gweithgareddau creadigol.

Taith o Greadigrwydd a Chysylltu: Dylunio ac adeiladu’r Ystafell Grwydrol Wledig, Lle Llais

Owen o PEARCE+ yn ein harwain drwy’r broses o ddylunio ac adeiladu ein hystafell grwydrol wledig, Lle Llais.

A photo of the person.
Owen Hughes Pearce
16/8/2024
Mandala Ynys Môn: Model amlinellol o Ynys Môn wedi’i wneud o gardbord. Rhennir y tu mewn yn adrannau gwahanol a llenwir pob rhan â gwrthrych o fath gwahanol, e.e. cyrcs, lensys sbectolau, cerrig, LEGO, moch coed, marblis a chareiau esgidiau.

Beth yw Map?

Caiff aelodau tîm Play:Disrupt eu hatgoffa y bydd plant wastad yn eu trechu wrth iddynt arbrofi gyda dulliau ar gyfer cydlunio mapiau digidol

A photo of the person.
Malcolm Hamilton
26/6/2024
Mae’r ddelwedd yn darlunio celfwaith digidol haniaethol gyda llinellau a siapiau tebyg i nodau rhyng-gysylltiedig neu rwydwaith cosmig. Mae’r cefndir yn ddu, sy’n debyg i’r gofod, gyda dotiau gwyn gwasgaredig yn cynrychioli’r sêr. Yn y canol, ceir dau siâp glas mwy, yr ymddengys bod un ohonynt fel atom neu niwclews a chanddo linellau’n troi o’i gwmpas, a’r llall yn debyg i fortecs yn chwyrlïo neu batrwm troellog. Mae llinellau glas main, disglair yn croesymgroesi’r ddelwedd, gan greu patrymau trionglog a geometrig, sy’n cysylltu’r ffurfiau canolog gyda’i gilydd a’r gwagle o’u hamgylch. Mae’r effaith gyffredinol yn ennyn ymdeimlad o ryng-gysylltedd, cymhlethdod, a delweddiad o rymoedd neu rwydweithiau anweledig yn yr hollfyd.

Beth Ydy Cynhwysiant a Pham y Mae’n Bwysig

Mae’r blog hwn yn edrych ar bwysigrwydd a phŵer gweithio mewn modd cynhwysol o fewn tîm sy’n gweithio trwy gyfrwng dwy iaith, ar draws diwylliannau, gyda sawl sefydliad, amryw ddisgyblaethau academaidd, y mae gan bob un ei hiaith dechnegol ei hun, ynghyd ag amryw anghenion o ran mynediad a gwahanol arddulliau cyfathrebu.

A photo of the person.
Dr. Anne Collis
4/6/2024
Macquette o strwythur wedi'i wneud â chardbord a ffyn

Dylunio’r Caban Crwydro’r Cefn Gwlad

Gofod arloesol i ddychmygu dyfodol gwell

A photo of the person.
Dr. Tristian Evans
8/4/2024
Yr Athro Flora Samuel yn rhoi cyflwyniad i'r dorf

Cyfarfod Tîm Cyfan LMC

Myfyrdodau ar gyfarfod tîm cyfan LMC

A photo of the person.
Prof. Flora Samuel
12/3/2024
Gweithio tuag at ddyfodol sy'n blaenoriaethu lles pobl a'r blaned.
Caiff y Llwyfan Map Cyhoeddus ei arwain gan Brifysgolion Caergrawnt, Caerdydd a Wrecsam ac mae’n rhan o raglen ymchwil genedlaethol The Design Museum ar gyfer pontio gwyrdd, sef ‘Future Observatory’. Caiff ei ariannu gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau.