Gwahoddwyd Map Cyhoeddus i gydweithio â Pharc Cenedlaethol Eryri i gynorthwyo ymgysylltu ieuenctid fel rhan o ddatblygu Cynllun Datblygu Lleol yr Awdurdod a Chynllun Eryri, ei gynllun rheoli. Y nod oedd cael gwell dealltwriaeth o sut mae pobl ifanc ar draws Eryri yn profi, yn gwerthfawrogi a cyn cysylltu â’r dirwedd lle maent yn byw.
Gan weithio’n agos â’r Parc, fe wnaeth Map Cyhoeddus gyd-ddylunio ymagwedd ymgysylltu a oedd yn cwrdd â phobl ifanc yn lle maen nhw eisoes. Roedd hyn yn cynnwys mynychu digwyddiadau awyr agored ym Metws y Coed, ymweld â chlybiau ieuenctid, a sesiynau mapio mewn ysgolion lleol. Dan arweiniad Swyddogion y Parc Cenedlaethol, gweithiwyd mewn partneriaeth i ddylunio sgyrsiau a gweithgareddau mapio hygyrch, yn seiliedig ar le, i gasglu barn pobl ifanc ar yr hinsawdd, lle, a dyfodol Eryri.
Bydd y mewnwelediadau a gesglir yn llywio adroddiad Llythrennedd Carbon Eryri yn uniongyrchol ac yn chwarae rhan allweddol yn llunio’r Cynlluniau Statudol arfaethedig - gan sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu hymgorffori mewn penderfyniadau ynghylch dyfodol y Parc.
